Rhif y ddeiseb: P-06-1374

 

Teitl y ddeiseb: Dylai tirfeddiannwyr Cymru – yn yr un modd â Lloegr – allu caniatáu 60 diwrnod y flwyddyn o wersylla mewn pebyll a faniau.

 

Geiriad y ddeiseb:

Yn ystod Covid, estynnodd Cymru hawliau tirfeddianwyr i ganiatáu gwersylla mewn pebyll a faniau gwersylla/cartrefi modur o 28 diwrnod y flwyddyn i 56. Yn 2022, dychwelodd hynny i 28 diwrnod ond cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch gwneud cyfraith 56 diwrnod. Mae cyhoeddiad diweddar gan y Senedd wedi gohirio unrhyw newid parhaol. Ym mis Gorffennaf 2023, mae gan Loegr 60 diwrnod o wersylla a ganiateir, gan roi tirfeddianwyr Cymru dan anfantais. Anogaf y Senedd i edrych ar y gwelliannau i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 2023 ac ystyried eu dwyn i mewn i gyfraith Cymru.

Mae’r gwelliant newydd, a basiwyd yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2023, yn caniatáu 60 diwrnod o wersylla – gyda hyd at 50 o bebyll a faniau gwersylla/cartrefi modur – y flwyddyn i dirfeddianwyr, yn amodol ar rai rheoliadau newydd: https://www.legislation.gov.uk/uksi/2023/747/article/3/made

Ymateb y Senedd oedd fod yr ymgynghoriad yng Nghymru wedi dod i ben, ac y byddai newidiadau i’r rheolau ar safleoedd gwersylla dros dro yn cael eu hystyried mewn diweddariad o’r rheolau hawliau cynllunio a ganiateir yn y dyfodol:

https://cofnod.senedd.cymru/WrittenQuestion/87749

Rwy'n annog bod yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal nawr, ac yn ceisio bod mor gyson â phosibl â'r gwelliannau yn Lloegr er mwyn peidio â rhoi tirfeddianwyr Cymru fel fi dan anfantais sydd am arallgyfeirio’r defnydd o'u tir er mwyn cynnal incwm yn y cyfnod hwn sy’n anodd i bawb.


1.        Cefndir

Datblygu a ganiateir

Mae rhai datblygiadau yn cael eu hystyried yn "ddatblygiadau a ganiateir" sy'n golygu nad oes gofyniad i ofyn am ganiatâd cynllunio oherwydd rhoddir hyn yn awtomatig. Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 yn nodi beth yw datblygiad a ganiateir.

Mae Dosbarth B o Ran 4 o Atodlen 2 o’r Gorchymyn yn darparu ar gyfer defnydd dros dro o dir (ac eithrio adeiladau) am 28 diwrnod, yn amodol ar rhai cyfyngiadau ac amodau. O dan yr hawliau datblygu a ganiateir hyn, gellir defnyddio tir ar gyfer safle gwersylla am hyd at 28 diwrnod y flwyddyn heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio - er bod hyn yn berthnasol i bebyll yn unig ac nid yw’n cynnwys carafanau.

Os yw'r defnydd dros dro o'r tir yn para am gyfnod hwy na 28 diwrnod neu'n barhaol, mater i'r Awdurdod Cynllunio Lleol fyddai penderfynu a yw hyn yn gyfystyr â ‘datblygiad’ neu ‘newid defnydd’ yn nhermau cynllunio. Os felly, efallai y bydd angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio.

Caiff hyn ei adnabod fel y "rheol 28 diwrnod" sydd mewn grym yng Nghymru.

Newidiadau yn Lloegr

 

Ar 26 Gorffennaf, daeth Town and Country Planning (General Permitted Development etc.) (England) (Amendment) Order 2023 i rym. Mae hyn yn caniatáu i dir yn Lloegr gael ei ddefnyddio fel safle gwersylla dros dro am hyd at 60 diwrnod o'r flwyddyn heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio. Fodd bynnag, mae nifer o amodau ynghlwm, nad ydynt yn berthnasol o dan reol 28 diwrnod Cymru, gan gynnwys:

§  ni chaniateir mwy na 50 o leiniau;

§  rhaid darparu toiledau a chyfleusterau gwaredu gwastraff; a

§  rhaid hysbysu'r Awdurdod Cynllunio Lleol ymlaen llaw bob blwyddyn, a rhaid iddo gael copi o gynllun y safle yn ogystal â'r dyddiadau pan y mae’n weithredol.

Er bod carafanau yn parhau i gael eu heithrio o dan y rheol 60 diwrnod, caniateir cerbydau gwersylla a chartrefi modur.

Mae angen trwydded gwersylla hefyd (yng Nghymru a Lloegr) i osod pebyll am fwy na 42 diwrnod yn olynol neu fwy na 60 diwrnod o fewn blwyddyn galendr. Felly, pe bai perchennog safle gwersylla yn Lloegr yn defnyddio'r rheolau newydd i redeg safle gwersylla am 60 diwrnod yn olynol, er na fyddai angen caniatâd cynllunio, byddai angen iddo wneud cais am drwydded o hyd.

Y sefyllfa yng Nghymru

Fel uchod, mae'r rheol 28 diwrnod yn dal mewn grym yng Nghymru.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru hawliau dros dro newydd ynghylch datblygu a ganiateir ym mis Ebrill 2021 i helpu i wella adferiad economaidd o COVID-19. Roedd hyn yn rhoi 28 diwrnod ychwanegol ar gyfer defnydd tir dros dro, gan olygu, yn ymarferol, y gellid defnyddio tir fel safle gwersylla am hyd at 56 diwrnod y flwyddyn heb fod angen caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, roedd y ddeddfwriaeth berthnasol ond mewn grym tan fis Ionawr 2022.

Ym mis Tachwedd 2021, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru  ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â datblygiadau a ganiateir, gan gynnwys a ddylid gwneud y newidiadau defnydd tir dros dro ychwanegol yn barhaol. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymateb llawn i'r ymgynghoriad gyda phenderfyniad ynghylch a fydd yr estyniad dros dro yn cael ei wneud yn barhaol, ac nid yw ychwaith wedi datgan a fydd yn cyflwyno'r un rheol sydd bellach mewn grym yn Lloegr.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei llythyr at y Cadeirydd, dyddiedig 7 Tachwedd, dywed Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod Llywodraeth Cymru:

…wedi cael gohebiaeth oddi wrth nifer o bobl sy'n byw yn ymyl safleoedd gwersylla dros dro yn mynegi eu pryderon am estyn yr hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer gwersylloedd o'r fath. Daeth pryderon i law pan oedd y rheol 56 diwrnod mewn grym yn dilyn cyfyngiadau'r coronafeirws ac mewn ymateb i'r ymgynghoriad ddechrau'r llynedd ar gadw'r cyfnod estynedig.

Mae'n dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y materion pan fydd yn gwneud y diwygiadau nesaf i hawliau datblygu a ganiateir. Nid yw'r set nesaf o newidiadau wedi'u cynllunio eto.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ym mis Mawrth 2023 gofynnodd Darren Millar AS am ddiweddariad ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch ymestyn hawliau datblygu a ganiateir. Dywedodd yr ymateb fod ystyriaeth o'r newidiadau yr ymgynghorwyd arnynt mewn perthynas â safleoedd gwersylla dros dro yn parhau.

Ym mis Mehefin 2023 cyflwynodd Huw Irranca-Davies AS  gwestiwn ysgrifenedig ar y mater hefyd. Yn ei hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru:

…A final decision will be taken as part of the next review of permitted development rights. Nid yw'r adolygiad wedi'i drefnu eto.

Yn fwy diweddar, ym mis Medi gofynnodd James Evans AS i Lywodraeth Cymru pa gynlluniau oedd ganddi i adolygu'r sefyllfa yng Nghymru yn sgil y newidiadau yn Lloegr. Ymatebodd Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

We will consider whether 60 days is appropriate, taking account of consultation responses already received on this issue, when we make the next amendments to permitted development rights. The next set of changes have yet to be scheduled.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.